Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Ai rheolwyr project cwmnïau yw’r sêr go iawn?

Postiwyd ar: Ebrill 1, 2020
gan
Are company project managers the real superstars?

Wrth i fusnesau ddatblygu a thyfu, daw yn gynyddol bwysig y gwarchodir nhw cyn belled â phosibl yn erbyn tarfiadau i’w rhediad esmwyth, bod hyn gan rymoedd mewnol neu allanol. Mae gallu gweithredu’n esmwyth, o ddydd i ddydd, yn creu amgylchedd sefydlog er mwyn adeiladau a chanolbwyntio ar y dyfodol. Mae effeithlonrwydd yn hanfodol er mwyn i dwf fod yn gyfystyr ag elw. Ond wrth i gwmnïau dyfu, mae’n hawdd colli gwaith neu hyd yn oed ei ddyblygu, i broblemau fod heb eu canfod a chollir terfynau amser.

Felly, mae rheolwyr project yn hanfodol mewn busnesau sy’n tyfu, yn rhoi trosolwg hanfodol o gynnydd, pwynt cyswllt i bawb yn y busnes, datrys problemau a sicrhau yr eir i’r afael â gwaith mewnol busnesau.

Gyrru effeithlonrwydd

Mae’r prosesau sy’n ymwneud â chyflenwi cynhyrchion a darparu gwasanaethau yn allweddol lle gall busnesau achub mantais gystadleuol – hyd yn oed gyda’r cynnyrch gorau yn y byd, os nad yw cyflenwi yn cyfateb â’r galw, ni ddiweddarir y cynnyrch yn ddigon aml neu mae cymorth cwsmer yn wan, bydd pobl yn chwilio yn rhywle arall. Mae sicrhau bod y prosesau yma mor effeithlon â phosibl yn dasg allweddol i reolwyr prosiectau; mae deall strategaeth weithredol, cynllunio, safon a rheoli cadwyni bwyd cyflenwi ymysg llawer o bethau eraill er mwyn gofalu bod pob haen gweithredu mor llyfn a phroffidiol ag y gall fod.

Gwella cyfathrebiadau

Mae projectau yn aml yn perthyn i adrannau lluosog a gallant hyd yn oed gwmpasu’r busnes i gyd, felly mae cael un pwynt cyswllt ar gyfer project o fantais enfawr. Pan fo busnesau’n cael ymholiadau gweithredol cymhleth neu annisgwyl, mae’r gallu i fynd â phryderon yn uniongyrchol i reolwr y project fod o fudd mawr, yn hytrach na chyflogeion yn teimlo’r angen i geisio cyngor neu ddiffyg ymateb gan reolwyr uwch. Mae gofyn ar i’r rheolwr project nid yn unig gael golwg eglur o’r project a’i effaith ledled pob adran, ond hefyd i gael sgiliau pobl rhagorol, sgiliau cyfathrebu a thrafod.

Gwireddu pethau

Mewn busnes sy’n tyfu, gall gwireddu pethau mewn busnes fod yn broblem. Llawer o’r amser, hwyrach bod y busnes, o bosibl yn canolbwyntio’n unig ar y cynnyrch ag anghenion ei chleientiaid a’i chwsmeriaid. Ar gyfer busnes sy’n tyfu’n gyflym, mae’n eithriadol o bwysig cadw llygad gritigol ar y gweithrediadau a lles cyffredinol sut mae’r cwmni yn gweithredu, ac ymdopi â’r newidiadau. Mae cyflogi rheolwr project all sicrhau y cedwir at flaenoriaethu iechyd y busnes yn golygu bod problemau’n cael eu datrys yn gynt, y cyflenwir projectau yn brydlon, ac y lleiheir gorwario oherwydd gwastraff neu aneffeithlonrwydd.

Er mwyn bodloni’r holl agweddau hanfodol hyn o’r rôl, mae angen i reolwr y project gael trosolwg manwl ar y busnes y maent yn gweithio ynddo, yn ogystal â gwybodaeth gynhwysfawr am y diwydiant a’i heriau. Dyna le gall uwch-sgilio ac ennill cymwysterau rheoli project fod yn hynod werthfawr. Nid yn unig mae cwrs ar-lein 100% Prifysgol Wrecsam Wrecsam Rheoli Project Meistr mewn Gweinyddu Busnes yn datblygu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer rheoli project yn llwyddiannus, tebyg i wybodaeth weithredol a dadansoddeg busnes, ond mae hefyd yn rhoi trosolwg holistaidd o sgiliau busnes craidd hanfodol, fel rheolaeth adnoddau dynol, arloesi a datblygu strategaeth.

Darperir y cwrs yn gyfan gwbl ar-lein, ac mae modd cyrchu deunyddiau unrhyw bryd ar amrywiaeth fawr o ddyfeisiadau, sy’n ei wneud yn ddelfrydol i bobl broffesiynol sy’n gweithio a’r rheini a chanddynt ymrwymiadau teulu. Wrth gwrs, byddwch yn parhau i elwa o gysylltiadau rhagorol Prifysgol Wrecsam Wrecsam gyda diwydiant a’i rwydwaith alumni gwreithreol. Gyda chwe dyddiad cychwyn, gallwch ddewis cychwyn astudio pa bryd bynnag sy’n gweddu i chi, a golyga talu fesul modiwl na wynebir costau cychwynnol uchel ar y cychwyn.

Er mwyn dysgu mwy, a gwneud cais,
ymwelwch â: https://online.wrexham.ac.uk/mba-project-management/.