Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru

Adeiladu gweithlu llwyddiannus fel perchennog busnes bychan

Postiwyd ar: Awst 24, 2019
gan
Building a successful workforce as a small business owner

Un o’r problemau mwyaf y mae unrhyw gwmni yn ei wynebu yw canfod gweithwyr gwych. Er y gall adeiladu tîm dyfal ac ymroddedig gyflymu tŵf cwmni, gall recriwtio staff sy’n anghymwys, neu nad ydynt yn gweddu â diwylliant y cwmni, fod yn dreth fawr ar fusnes bychan.

Sut i recriwtio a thyfu eich tîm yn effeithiol a ddiffwdan gan wneud cyn lleied o gamgymeriadau â phosibl? Dyma bum pwynt i gychwyn:

Canfod y bobl addas

Cyn dechrau recriwtio, lluniwch restr o briodoleddau y dylai eich ymgeisydd delfrydol feddu arnynt. Yn hytrach na chanolbwyntio ar gymwysterau, penderfynwch pa nodweddion sydd eu hangen ar gyfer y swydd. Ystyriwch y brand rydych yn ceisio ei greu ac ysgrifennwch eich syniadau ynglŷn â diwylliant, gwerthoedd a dulliau gweithio eich cwmni. A oes angen staff sionc, cyfeillgar, brwdfrydig neu rai sy’n gallu gweithio’n dda dan bwysau? Peidiwch â diystyru’r ymgeiswyr sy’n dychwelyd o doriad yn eu gyrfa; efallai bod ganddynt lawer o brofiad a sgiliau trosglwyddadwy a allai fod yn ddelfrydol i’r swydd. Pwy well i ddelio â chwsmer blin na rhywun sydd wedi treulio’r amser y flwyddyn ddiwethaf yn rhesymu gyda phlentyn bach?

Mynnwch y gwaith papur

Wedi i chi gael hyd i’r unigolyn cywir ar gyfer y swydd, mynnwch fod y gwaith papur yn gywir. Mae’r cyflogai a’r cyflogwr dan fygythiad os nad oes cytundeb ysgrifenedig ar waith yn nodi’n glir yr hyn y mae’r cyflogwr ei eisiau gan y cyflogai, a  beth all y cyflogai ddisgwyl gan y cyflogwr o ran tâl, oriau gwaith, hawl gwyliau a manteision, ymysg pethau eraill. Mae contract yn gwarchod cyflogwyr yn yr un modd ag y mae’n gwarchod y cyflogeion. Mae gwybodaeth hanfodol i’w gael ar wefan y Llywodraeth, www.gov.uk.

Sicrhewch fod gennych yr yswiriant cywir

Rhan o ofalu am gyflogeion yw sicrhau eu bod yn ddiogel yn y gwaith drwy wneud asesiadau iechyd a diogelwch rheolaidd. Hefyd, rhaid i bob cwmni gael yswiriant atebolrwydd cyflogwyr cyn gynted ag y mae’n penodi ei gyflogai cyntaf, rhag ofn bod rhaid iddo dalu hawliau iawndal o ganlyniad i anaf yn y gweithle. Mae cael yr yswiriant cywir yn rhoi tawelwch meddwl i gyflogwyr fel bod y busnes yn tyfu. Mae risgiau iechyd a diogelwch hefyd o dan reolaeth.

Rhowch adborth – ac anogaeth

Mae’n bwysig bod yn glir gyda chyflogeion o ran yr hyn a ddisgwylir ganddynt. Os yw gweithiwr yn gwneud swydd wych, sicrhewch fod gweddill y tîm yn gwybod, fel y gallant ddod yn batrwm ymddwyn iddynt. Yn yr un modd, os nad yw gweithiwr gystal â’r disgwyl, ni ddylai cyflogwyr ei anwybyddu a gobeithio y bydd e’n gwella. Os nad yw’n gwireddu ei lawn botensial, nid yw’r busnes chwaith.

Meddyliwch am gadw staff

Os yw cwmni byth a hefyd yn penodi cyflogai, gallai gael effaith bendant ar refeniw ac elw busnes. Ni fydd mwyafrif y busnesau bach yn gallu cynnig yr un gyflog neu ragolygon gyrfa ac y gall cwmni mawr. Felly, rhaid iddynt fod yn fwy creadigol o ran sut maent yn denu a chadw’r bobl gywir. Gallai cynnig tocyn teulu i barc antur neu ddiwrnod sba i’ch gweithwyr gorau olygu llawer iddynt – cynnig amgen i fonysau seiliedig ar berfformiad sydd y tu hwnt i gyrraedd busnesau bach. Gall buddion eraill nad ydynt yn torri’r banc, fel trefniadau gweithio hyblyg neu ddiwrnod o wyliau ar ben-blwydd, helpu gweithwyr i deimlo bod eu cyflogwyr yn gofalu amdanynt. Hefyd, mae creu’r diwylliant cywir yn cael effaith sylweddol ar gadw staff, ac mewn busnesau bach, yn aml mae’n haws curadu un da. Gyda llai o bobl a llai o fiwrocratiaeth, mae’n haws sefydlu perthnasau gwaith a’r amgylchedd gwaith cywir.

Cnoi cil? Mae Prifysgol Wrecsam Wrecsam yn cynnig gradd Meistr mewn Gweinyddiaeth Busnes (MBA) Rheolaeth Adnoddau Dynol sy’n canolbwyntio ar y sgiliau allweddol angenrheidiol y mae gofyn i bobl broffesiynol AD llwyddiannus feddu arnynt. Mae’r radd yn cynnwys datblygu talent, rheoli gwobrwyo, darparu adnoddau a fframweithiau AD strategol, yn ogystal â disgyblaethau busnes allweddol fel cyllid, strategaeth a marchnata a datblygu sgiliau arweinyddiaeth busnes ymarferol a damcaniaethol. Nod yr MBA sy’n llwyr ar-lein yw eich galluogi chi i roi’ch gyrfa ar lwybr carlam. Byddwch yn astudio yn ôl eich pwysau, ar eich telerau eich hun, pryd bynnag rydych chi’n barod. Ceir dewisiadau talu fesul modiwl, hyblyg, a benthyciadau llywodraeth ôl-radd i dalu am gostau’r rhaglen yn llawn, i’r rheini sy’n gymwys.

Am fwy o wybodaeth, neu i gofrestru, ewch i https://online.wrexham.ac.uk/mba-hrm/