Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
MA Addysg gyda Phlentyndod Cynnar 100% ar-lein

Ffordd ddoethach o lwyddo cwrs Meistr mewn addysg gyda phlentyndod cynnar ar-lein sy'n canolbwyntio ar yrfa am £6,000

prog-ma-educationwithearlychildhood
Gwnewch gais erbyn: 22 Ebrill 2024
I ddechrau ar: 29 Ebrill 2024
  • 180 credyd
  • 2 flynedd yn rhan-amser
  • £6,000

Manteision allweddol

  1. Gradd Meistr 100% ar-lein o fewn 24 mis
  2. Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  3. Bydd profiad gwaith yn cael ei ystyried ar gyfer mynediad
  4. Ennill cyflog wrth ddysgu
  5. Cyfanswm ffioedd o £6,000, opsiwn i dalu fesul modiwl
  6. Cefnogaeth academaidd lawn

Cwrs Meistr ar-lein wedi'i ddylunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol addysg

Mae’r radd MA Addysg gyda Phlentyndod Cynnar 100% Ar-lein hon gan Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru wedi’i chreu’n benodol ar gyfer gweithwyr proffesiynol prysur mewn amrywiaeth o swyddi ym maes addysg plentyndod cynnar. Mae’n eich galluogi i atgyfnerthu’ch profiad gwaith ymarferol gyda’r theori, offer a thechnegau addysg a phlentyndod cynnar a fydd yn eich helpu i sicrhau llwyddiant gyrfaol fel addysgwr plentyndod cynnar.

Mae’r MA mewn Addysg gyda Phlentyndod Cynnar yn rhoi dealltwriaeth feirniadol i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar o sut mae ymchwil addysgol, theori, polisi ac ymarfer yn croestorri â chyd-destun addysg plentyndod cynnar yn gyffredinol, a gyda’i gyd-destunau proffesiynol a diwylliannol penodol.

Ennill wrth ddysgu gydag astudio ar-lein hyblyg

Astudir y rhaglen yn gyfan gwbl ar-lein mewn amgylchedd dysgu ar-lein cydweithredol a rhyngweithiol. Gellir ei hastudio o unrhyw le yn y byd, ar unrhyw adeg ac ar ystod eang o ddyfeisiau symudol a bwrdd gwaith.

Cynlluniwyd y rhaglen ran amser i gael ei hastudio o amgylch ymrwymiadau gwaith a theulu, sy’n golygu nad oes angen cymryd seibiant astudio ac y gall myfyrwyr gymhwyso’r hyn maen nhw’n ei ddysgu i’w rôl yn y gwaith wrth iddyn nhw astudio.

Y cynnwys a’r cyflwyniad hwn sy’n canolbwyntio ar yrfa sy’n gwneud y rhaglen MA Addysg gyda Phlentyndod Cynnar ar-lein hon yn wahanol, gan ei gwneud yn opsiwn craff i weithwyr addysg blynyddoedd cynnar proffesiynol sydd am ddod yn fwy effeithiol fel addysgwyr ac yn fwy llwyddiannus yn eu gyrfaoedd.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Mae’r MA Addysg gyda Phlentyndod Cynnar yn ymdrin ag elfennau sylfaenol theori ac ymarfer addysg a phlentyndod cynnar, gan gynnwys:

  • Lles a Gwydnwch mewn Plentyndod Cynnar
  • Materion Cyfoes ym maes Plentyndod Cynnar
  • Technolegau Dysgu
  • Ymarfer Beirniadol a Myfyriol mewn Addysg
  • Mentora a Hyfforddi
  • Addysgeg Feirniadol ac Ymarfer Gwrth-ormesol

Mae yna hefyd brosiect ymchwil 30 credyd ar ddiwedd y rhaglen lle bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gymhwyso theori i ymchwil yn seiliedig ar ymarfer.

Y ffordd ddoethach o lwyddo ym maes addysg plentyndod cynnar. MA mewn Addysg gyda Phlentyndod Cynnar 100% ar-lein sy'n canolbwyntio ar yrfa am £6,000