Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru
Astudio ar-lein

Graddau cyfan gwbl ar-lein gan brifysgol sy'n canolbwyntio ar yrfaoedd

Porwch raglenni ar-lein
Group of people happy
Gwnewch gais erbyn: 17 Mehefin 2024
I ddechrau ar: 24 Mehefin 2024
  • 100% ar-lein
  • Graddau carlam
  • Opsiynau talu hyblyg

Manteision Allweddol

  1. Rhaglenni gradd 100% ar-lein
  2. Astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar unrhyw ddyfais
  3. Ennill cyflog wrth ddysgu
  4. Opsiwn i dalu fesul modiwl
  5. Cefnogaeth academaidd lawn
  6. Ail yn y DU ar gyfer Ansawdd Addysgu*
    *Canllaw Prifysgolion Da'r Times a'r Sunday Times 2022

Mae Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru - rhan o Brifysgol Wrecsam - yn falch o gyflwyno portffolio o raglenni gradd 100% ar-lein

Gyda 10 cwrs MBA, 3 cwrs MPA, 3 rhaglen fusnes israddedig, 5 cwrs MSc Cyfrifiadureg, 3 MSc Seicoleg a 3 MA mewn Addysg i ddewis o’u plith, mae’r rhaglenni wedi’u dylunio ar gyfer y gweithiwr proffesiynol sydd eisiau datblygu sgiliau proffesiynol allweddol sydd â galw mawr amdanynt er mwyn symud ymlaen ymhellach yn eu gyrfa neu newid cyfeiriad yn gyfan gwbl.

Gyda’n rhaglenni gallwch nawr ffitio astudio o gwmpas eich bywyd – gallwch astudio unrhyw bryd, yn unrhyw le, ar amrywiaeth eang o ddyfeisiau. I gynnig hyd yn oed mwy o hyblygrwydd, mae yna chwe dyddiad dechrau pob blwyddyn, opsiwn i dalu fesul modiwl ac mae’r llywodraeth yn cynnig benthyciadau ôl-raddedig i ymgeiswyr cymwys.

Mae Ysgol Reolaeth Gogledd Cymru a Phrifysgol Wrecsam yn ei chyfanrwydd yn ymfalchïo yn ei sgoriau uchaf am gyflogadwyedd a’i harbenigedd mewn dysgu rhan amser a hyblyg.